Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Saturday, November 26, 2005

Rocio'r Kasbah

Hwre, mae Txoko nol! Da ni di bod wrthi am bron i bum mlynedd, ond yn ddiweddar, mae ein club swper wedi bod yn cwrdd llai a llai. Sy'n bit of a bummer really, ond dyna fe, da ni gyd yn ddynion proffesiynol prysur, prysur ac mae trefni gwledd i dwsin unwaith y mis yn gallu bod yn waith caled.

Eniwe, dyma Lugg yn ffonio ddydd Llun yn dweud bod e'n mynd i wedd droi ei dy lawr yn Grangetown mewn i Souk Morrocaidd ar nos Wener a bod yn rhaid i mi fod na. Nice one. Edrychais ymlaen yn eiddgar.

Cyrhaeddais am wyth gyda'r bag o lo loedd Lugg di gofyn amdanno (peidiwch a gofyn) a botel o win coch. Yna'n barod roedd Aelwyn yn dewis albym gan 3 Mustaphas 3 i whare a Siencs a Lugg wrthi'n brysur yn y gegin. Roedd clustogau wedi'u gwasgaru hyd y stafell fyw a hybli-bybli anferth yn y canol. Marciau llawn i Lugg felly am ei synwyr theatraidd.

Cyrhaeddodd Mike a Richard Powell, Tim a'i met Mike, Dave Evans a Daf yn y man ac fe ddaethpwyd a bob math o snaciau bach Morocaidd allan. Yn eu plith roedd cnau a hadau wedi'u rhostio, bricyll wedi'u sychu ac orenau mewn sinamon. Perffaith i'n cael ni'n barod am y tagine o gig ddafad a cous cous gyda mintys. Wedyn, fe ddaeth dets wedi'u stwffio da almonds, mintys a mefys allan (hyfryd) ac un o hufenau ia enwog Siencs. Dwi ddim yn cofio cweit beth oedd ynddo fe ond, waw, terfyn perffaith i bryd (ac achlysur) ardderchog.

Ar ol bwyta nes i guro Mike P a Lugg ar y bwrdd backgammon, cyn mynd adre'n fodlon iawn. Roll on y Txoko nesaf.

Thursday, November 24, 2005

Fy Mywyd Glamorys (rhannau 17-24)

Awww! Pen tost heddi. Neithiwr, ro'n i yn Chapter yn gwneud darlleniad o "Gas Station Angel" gan Ed Thomas. Cafwyd cynilleidfa dda ac felly lawr a ni i'r bar i wario'r elw. Ar ol cwpwl, es i a Jams draw i Ba Orient yn y bae i gwrdd a Richard Harrington, sydd off i Morocco am fis ddydd Gwener i wneud ffilm. Nice work if you can get it! Gyda fe roedd Ed Thomas, Richard Lynch a Dewi Gregory ac ar ol cwpwl o Mojitos aethom ni a Harrington adre (ffwcd!) cyn mynd ymlaen i'r Cameo ac i dy Ed i yfed gwin.

Pan ddihines i am hanner awr wedi deg, cofies i bod criw o Wedi 7 yn dod rownd i wneud eitem ar Djio yn y prynhawn. Shit! Roedd y fflat yn ffiaidd o frwnt, ar ol i Lugg bod yn torri teils yn y gegin (ma fe di bod yn teilio ystafell y bath) . Roedd llwch coch ymhobman. Ar y llawr, ar y llestri, ar y cwcer, ar y byrddau. Bolycs! Jyst y peth ar gyfer hangover. Felly mas a fi i brynu bob math o offer glanhau wedyn sgrwbio, sgrwbio, sgrwbio. Wedyn Sgrwbio eto.

Ddaeth Ri rownd am baned a dal fi da dwstwr yn fy llaw. Mae hi di bod yn canu llais cefndir ar drac newydd sbon da Llwybr Llaethog gyda (wait for it) David R Edwards yn canu'r prif lais. Sori John a Kevs, mae hyn yn newyddion sy jest yn rhy cwl i gadw'n gyfrinachol. Y tro dwethaf nes i weld Dave oedd y diwrnod nath John Peel farw; roeddwn i'n digwydd bod yn Aberteifi, so es i rownd i weld e. Ar y pryd, doedd gan 'run ohonon ni fwriad i recordio byth eto, felly ma hwn yn newyddion gret. Apparently, nath e recordio'i llais lawr y ffon ac mae Ll Ll wedi adaeladu'r trac rownd e. Dwi methu aros i cael ei glywed.

Eniwe, llwyddes i lanhau'r fflat, ac fe ddaeth y criw o Wedi 7 rownd. Llwyddes i i siarad fel overexited geek am y greft o rhoi un record ar y stereo ac wedyn rhoi un arall. Mae'r eitem arno ar nos fawrth os oes diddordeb da chi...

Saturday, November 19, 2005

Dirgelwch yr iPod

Bore dydd Mercher, roedd cnoc ar y drws gan y postmon a phecyn yn ei law i mi. Hwre! Rhwygais i'r papur i ffwrdd a tu fewn roedd iPod Nano newydd sbon. Neis iawn, ond pwy ddanfonodd hwn i mi? Nes i ddim prynu hwn tra'n we-siopa'n feddw rhyw noson, naddo? Dim cerdyn na dim byd. Jest derbyneb gyda'r enw Ian Davies arno. Ian Davies ydi enw go iawn yr actor o Lerpwl Ian Hart, hen ffrind i mi oedd wedi addo danfon anhreg priodas i mi ar ol methu dod i'r diwrnod mawr oherwydd 'stwff teuluol'. Nice one Ian!

Llenwais fy nhegan newydd da tiwns a bant a fi i ddal tren i Lundain i weld y wraig. Mae hi di bod yn gweithio ar "Life of Ryan... and Ronnie", drama newydd Meic Povey i Sgript Cymru sydd yn Llundain wythnos ma. Do'n i ddim wedi cael cyfle i weld y sioe eto oherwydd gwaith a digwyddiadau, ac wedi clywed digon amdano fe, yn naturiol. Ar ol y sioe, sy'n gret gyda llaw (mwy o son amdano fe ar Caru/Casau), aethon ni off i'r NFT ar y "lan ddeheuol" i gwrdd a bynch o gyllunwyr theatraidd (ffrindiau coleg y wraig) oedd 'di bod mewn rhyw noson wobrwyo, neu rywbeth. Doedd neb o'r criw wedi enill gwobr, hyd y gwela i, ond roedd pawb mewn hwyliau da ac fe bennais i, Sue, Rachael a Laura lan yn bwyta cyri yn Tooting Broadway.

Dydd Iau, aethon ni mewn i'r dre i siopa, a bennes i lan yn mynd i tua dwsin o siopau sgidie da Sue a Rachael. Gret! O leia ges i gyfle i fynd iPlaylounge lle ges i chydig o degannau reit cwl gan gynnwys cwpwl o 2-faced Dunnies a Fire Water Bunny gan Gary Baseman. Cwl! Wedyn es i am gwpwl o beints yn Soho gyda fy hen ffrind IanDavies/ Hart. O'n i ddim di gweld Ian ers tua pedair blynedd, so odd da ni loads i ddal lan da, sydd wastad yn ffordd dda o wario chydig o oriau mewn pyb.

Odd raid i mi ddod adre prynhawn ddoe oherwydd odd da fi rihyrsal o ddarlleniad o "Gas Station Angel" gan Ed Thomas dwi'n cymryd rhan ynddo yn Chapter nos Fercher nesa. Benes i lan yn y pyb gyda Dean, John a Lucy o'r cast am last orders, lle am ddim rheswm, dechreuodd Dean son am y gyfres teledu cwlt o'r 80au cynnar, "One Summer" . Roedd y gyfres yn son am ddau scally yn rhedeg i ffwrdd o Lerpwl ac yn dod i Ogledd Cymru. Un o'r actorion oedd David Morrisey, ac un arall oedd Ian Hart...

Wednesday, November 16, 2005

Wps!

Dyna lle ron i'n edrych mlaen yn eiddgar at gigio gyda Ty Gwydrn yng Nghlwb Ifor ar Ragfyr 13eg, pan ddaeth Lugg ar y ffon i ddweud bod camgymeriad wedi bod wrth argraffu fflaiars CIB. Roedd y gig actiwali ar y 15fed. A dwi di bwcio hedfan i Efrog Newydd ar y 14eg. O na! O ni di roi band newydd at ei gilydd a phopeth, gyda John Pulman, oedd yn fy mand cynta rioed, sef Clustiau Cwn, ar y bas. O wel, bydd rhaid i ni whare yn y flwyddyn newydd nawr. Gall roc a rol aros...

Wednesday, November 09, 2005

Powys, Priodas ac Angladd

Mae'n wythnos ers angladd dad, ac mae'n rhaid i mi ddweud fod y mis neu ddau dwethaf wedi bod yn un o'r cyfnodau mwyaf rhyfedd a ges i yn fy myw. Dyna lle ro'n i ar ddechre mis Medi'n paratoi at fy mhriodas pan ddaeth alwad gan Ian Yeoman yn Theatr Powys ynglyn a rhyw brosiect ysgolion. Ddweddais wrtho y bydddai lan i weld e yn Llandrindod y bore nesa. Roedd hwn ar nos y fercher. Erbyn bore dydd llun, roeddwn wedi ymuno a'r cwmni ar gyfer eu rhaglen ysgolion cynradd, "Brenin,Bran a Branwen". Ymunais ar yr amod fy mod i'n cael diwrnod bant i fynd lawr i Lundain i ffilmio hysbyseb ar gyfer cymdeithas adaeladu enwog (gwerthu mas er mwyn talu am fis mel!) a digon o amser i drafaeli i Gaerdydd bob nos fawrth ar gyfer sessiynau gweithdy theatr ieuenctid y Sherman. Roedd hyn yn golygu mod i'n gwneud o leia 500 milltir yr wythnos cyn i mi hyd yn oed stepio fewn i fan y cwmni. Ac mae Powys yn sir reit fawr.

Eniwe, nes i rili enjoio'r job. Y cast (Medi a Naomi), y cyfarwyddwr (Ian) a'r gweinyddwyr (Nikki a Sue) a'r plant. Basically, heb fynd i mewn i fanylion y stori, roedd yn rhaid i ni wario'r dydd gyda chriw o blant 8/9/10 ac ymddwyn fel brain. Wedyn, yn y prynhawn byddwn i'n troi mewn i frenin cas oedd yn cael ei gymryd mewn i nyth y brain a'i groesholi. Cwl!

Wedyn, pythefnos ar ol cychwyn cawsom ni'r briodas. Diwrnod fendigedig, llawn ffrindiau, teulu, cariad a dymuniadau da. A dawnsio, meddwi ac anhregion, wrth gwrs!! Roedd y seremoni'n hyfryd, y tywydd yn braf a'r bwyd (diolch masif i Andrew, Bev, Roger, Sarah a staff y Clytha) yn flasus tu hwnt. Felly, diolch anferth i bawb am ddod a gwneud y dydd yn un sbesial iawn i Sue a mi. A nol a ni i'r gwaith ddydd llun. Fi ym Mhowys, Sue yng Nghanolfan y Mileniwm gyda Sgript Cymru. O wel, erbyn hyn da ni di bwcio mis mel yn Efrog Newydd cyn Dolig. Hwre!

Pwy fasa wedi gallu rhagweld y bydde digwyddiad teuluol anferth arall o fewn chwech wythos, sef yr angladd? Wrth gwrs roeddem ni gyd yn gwybod bod dad yn sal, ond ar ol ei weld yn y briodas, roeddem ni'n disgwyl cael lot mwy o amseroedd da gyda fe. Aeth dad i'r ysbyty y noswaith y ddychwelais i o Bowys. Dwi wedi cofnodi'r diwedd fan hyn eisioes, ond dwi jest am son dipyn bach am yr angladd.

Ro'n i mor browd o dad ar y diwrnod, ac fe roddodd hwn nerth i mi, mam a Huw wrth i ni wynebu'r achlysur anodd hwn. Ddaeth gymaint o deirgedau a negeseuon o gydymdeimlad gan gymaint o bobl yn ystod yr wythnos, ond mae e mor anodd os nad yn amhosib paratoi am achlysur fel hyn. Dwi'n tybio fod pawb yn myfyrio ar adegau yn eu bywyd am syt beth fydd colli rhiant a syt byddent yn ymddwyn/teimlo/ymateb ar achlysur yr angladd. I ni, roedd yn bwysig ein bod ni gyda'n gilydd. Yna'n gefn i'n gilydd. Wrth i'r dydd agosau, roedd y teimlad o arswyd yn fy stumog yn cynyddu mwy a mwy. Ond ar y dydd, fe ddaeth ryw heddwch a ryddhad.

Roedd capel Groeswen yn llawn, a'r canu'n llawn angerdd. Yr emynau oedd Calon Lan a Bread of Heaven (Cwm Rhondda). Siaradodd Denzil John a Lyndsey yn hyfryd a llawn teimlad. Ges i gyfle i siarad ar ran y teulu, ac er nid yn brofiad hawdd neu bleserus o gwbl, roedd yn brofiad bythgofiadwy a gwerthfawr a buddiol tu hwnt i mi.

Wedyn aethon ni mlaen i'r amlosgfa yn Thornhill. Roedd hyd yn oed mwy o bobl yma. Unwaith eto fe siaradodd Denzil yn wych. Fe ganwyd Dros Gymru'n Gwlad a'r anthem, cyn i' lleni gau o gwmpas yr arch wrth i Ella Fitzgerald ganu Every Time We Say Goodbye. Not a dry eye in the house...

Roedd y 'parti' (y gair anghywir, dwi'n gwybod) yn yr Angel wedyn yn gret. Llawn dop, wrth gwrs a phawb a ryw stori neu atgof o nhad. A lot o gwrw a brechdanau. Ac yn y diwedd, mi roedd hi'n ddiwrnod hyfryd, lle gawsom cyfle i gofio dyn hyfryd.

Dyma beth nes i ddweud yn y capel:

Dad

David John Potter was a lot of things to a lot of people. He was respected local politician, a school governor, a tireless community worker and an exemplary citizen. He was a campaigner on issues he felt strongly about; willing to put in the hours and go the extra mile. A man of principle. He was a passionate Welshman, and not just on International days. He believed in his country. In his nation. And he felt a part of that nation. In all its diversities and contradictions, he felt right there in it’s heart, debating and arguing what he thought was right. Politics wasn’t a career to him. It was something he felt he had to get involved in.

But he was much more than this. He was a brother to Dennis and Keith, who both sadly passed away this year. He was a loyal friend, who kept his friendships going over the years and over the distances. He always found time for his mates despite all his commitments. He was a devoted husband; the light of my mother’s life, keeping that light burning bright throughout a busy retirement that would exhaust most men fifty years younger. Whenever there was a chance, between committees and campaigns, they would jet off, gleefully squandering my brother’s and my inheritances on a series of tremendous sounding holidays.

And we wouldn’t have had it any other way. Because to me and my brother Huw, David John Potter was the best dad we could possibly have wished for. He was to be respected, but never distant; Firm, but fair; guiding us but letting us make our own mistakes. And never coming back with an “I told you so”, if it didn’t quite work out.

As a teenager, I developed an enthusiastic taste for punk rock and reggae music, and I would inform dad, after I’d purchased tickets to see my latest noisy heroes in the Top Rank, Sophia Gardens or the University, that he would have to come down to Cardiff to fetch me after the gigs. And there he would be as I emerged from the concert halls, waiting patiently, often chatting away to total strangers, who’d be dressed in the most outlandish fashions and sporting multicoloured or dreadlocked hair as if he’d known them all his life.

Dad was never fazed by my ambitions to enter the perilous world of the performing arts. Indeed he actively encouraged it! He would ferry me to band practises in Merthyr or drama rehearsals in Ponty, often filling the car with unexpected fellow performers who needed a lift home. My friends were always made to feel at ease in his company and they all came to love him.

Through out my career, and adult life, I’ve always felt supported by dad, and he always made it known how proud he was of my achievements. He would try his best to see all my shows, even flying out to Dublin a few years ago to witness my performance in a play he’d seen quite a few times before. He joked that it was to sample a proper pint of Guinness and see what all the fuss was about. But I knew that he was just very proud of what we were achieving with that play and wanted to be a part of it’s success.

But he wasn’t just there to share the good times. When either Huw or myself were in trouble or needed help or advice about the various hiccups that life can sometimes throw at you, he was always there. We could talk to dad. If something was bothering us, he would know instinctively. We’ve both had our major upheavals, and he’s been there. A tower of strength to support his boys. His love was unconditional and generous.

About six years ago he became a grandfather. And as you probably know, this brought a new spark to his life. He doted on Gwennan, who coined her own name for him, Danan, spending as much time as possible with her. His joy when she was around was infectious. He would play with her, talk and laugh with her; play football, paint and occasionally be firm with her. He’d fetch her from school, take her to the park and generally behave like someone half his age with her. They would often talk on the phone, usually about nothing in particular, but there was always a lot of laughter involved. After being told of Danan’s death, she was chatting away to Huw, asking questions about where he was and what he was up to now. She turned to Huw, in the way only a small child can, and asked him if he had the phone number to Heaven, so that she could carry on having her little chats to Danan…

When I was married, in September, dad was there, the life and soul of the party. Renewing acquaintances with old mates and charming new ones. Dancing and drinking and smiling and laughing, he was so full of life. And so proud of me and my wife, Sue, “the daughter I never had, until now!”. She was welcomed with open arms to our family and she in turn loved him very much as a father.

David John Potter. A tender, loving man, full of humour and humility. He was good company, always lighting up the room with his presence. He could be stroppy and opinionated, but his opinions were always to be respected. Even if you didn’t particularly agree with him. He was a good bloke, genuine and real, a treasured mate, a respected citizen and a fine husband. He was our dad. A great dad. And our dad cared. We shall all miss him so much.