Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Saturday, February 25, 2006

Dyddiadur Dyn Sal

Nes i benderfynnu peidio a postio dim byd arall tra o'n i'n sal oherwydd na gyd o'n i'n gwneud oedd cwyno am fod yn sal. Diflas iawn. Y peth yw, dim ond nawr dwi di gwella. Ac i fod yn onest, mewn retro spect, roedd fy salwch yn anhygoel o ddiddorol. Cymerwch yr anhap gyda'r asgwrn bysgodyn fel enhraifft: dyna lle roeddwn i, fy annwyd bron ar ben yn penderfynnu cael swper iachus o mecryll a llysiau. Iym iym! Dwi wrth fy modd gyda mecryll ac yn hoff iawn o'u stwffio nhw'n llawn o bupyr, wynwns a pherlysiau, eu lapio mewn ffoil a'u sticio nhw yn y ffwrn am ryw 20 munud. Swper hawdd a blasus. Y peth oedd, ryw hanner awr wedi imi'i fwyta, a minai wrthi'n cyfieithu un o hits mwya'r 70au hwyr i'r Gymraeg, dyma fy mol yn dechrau brifo. Diffyg traul, meddyliais tra'n ceisio meddwl am ffordd gweddus o weud "Meditate in my direction, Feel your way"...

Erbyn 10:30pm roedd y diffyg traul wedi mynd yn annioddefol ac erbyn hyn roedd e fel petai rhywyn wedi sticio cleddyf i fewn i'm mrest ac wedi snapio fe off. Aaaaw! Ar ol noson warthus o ddiffyg cwsg, dyma fi'n perswadio'r wraig i yrru fi i'r ysbyty, lle ges i stwr am beidio fynd yno'n syth ar ol i'r poenau ddechrau. Yna ges i electrodes wedi'u sticio i'm mrest a'm testio am gur calon. Yn ffodus, ro'n i'n oce, ond wedi i mi weld doctor dyma fe'n penderfynnu mod i wedi llyncu un o esgyrn fy swper blasus a bod hwnw wedi crafu lawr tu fewn i fy oesoffogys. Swno'n boenus? Wel ma fe! Ac ni symudodd y boen am tri neu bedwar diwrnod. Yr unig beth o'n i'n gallu cymrud oedd paracetamol, ibuproffen a diwrnod off gwaith. Dwi'n meddwl, o hyn ymlaen dwi am gymryd fy Omega 6 mewn tabled...

Monday, February 06, 2006

Sal, sal, sal!

Dwi ar fy ail annwyd eleni ac mae fy ail cold sore infestation mewn chwech wythnos yn dal yn amlwg ar fy ngheg. Be ffwc sy'n digwydd i nghorff? Yn ddiweddar dwi di gwneud ymdrech masif i fyw yn iachach - ffrwythau, pethe gwyrdd ffres, dim ffags, dim cwrw, mynd i'r gym a cheisio cysgu weithiau. A syt mae nghorff yn fy ngwobrwyo? Hmm.

So ffar dwi di gorfod canslo un cyfarfod busnes, un set dj (parti penblwydd Pictiwrs yn y Pyb neithiwr - sori) a diwrnod o waith mewn swyddfa. A dwi BYTH yn canslo pethe. Wel, heblaw am y gig Ty Gwydr na llynedd. Ond fel arfer dwi BYTH yn canslo pethe. Allai ddim canslo fory hefyd, er ei fod e'n teimlo'n tempting iawn i wneud; dwi di bod yn gwneud gweithdai drama mewn ysgol yn Abertawe ddwywaith yr wythnos. Dwi'n rili mwynhau'r job, ac mae'r plant yn hyfryd, ond erbyn tri o'r gloch dwi'n hollol knackered. Ac wedyn, nos fory, mae gen i fy ngrwp yn y Sherman. Plis Duw, gai golli'r salwch ma yn fy nghwsg heno? Wnai ddechre mynd i'r capel to, onest.