Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Saturday, November 19, 2005

Dirgelwch yr iPod

Bore dydd Mercher, roedd cnoc ar y drws gan y postmon a phecyn yn ei law i mi. Hwre! Rhwygais i'r papur i ffwrdd a tu fewn roedd iPod Nano newydd sbon. Neis iawn, ond pwy ddanfonodd hwn i mi? Nes i ddim prynu hwn tra'n we-siopa'n feddw rhyw noson, naddo? Dim cerdyn na dim byd. Jest derbyneb gyda'r enw Ian Davies arno. Ian Davies ydi enw go iawn yr actor o Lerpwl Ian Hart, hen ffrind i mi oedd wedi addo danfon anhreg priodas i mi ar ol methu dod i'r diwrnod mawr oherwydd 'stwff teuluol'. Nice one Ian!

Llenwais fy nhegan newydd da tiwns a bant a fi i ddal tren i Lundain i weld y wraig. Mae hi di bod yn gweithio ar "Life of Ryan... and Ronnie", drama newydd Meic Povey i Sgript Cymru sydd yn Llundain wythnos ma. Do'n i ddim wedi cael cyfle i weld y sioe eto oherwydd gwaith a digwyddiadau, ac wedi clywed digon amdano fe, yn naturiol. Ar ol y sioe, sy'n gret gyda llaw (mwy o son amdano fe ar Caru/Casau), aethon ni off i'r NFT ar y "lan ddeheuol" i gwrdd a bynch o gyllunwyr theatraidd (ffrindiau coleg y wraig) oedd 'di bod mewn rhyw noson wobrwyo, neu rywbeth. Doedd neb o'r criw wedi enill gwobr, hyd y gwela i, ond roedd pawb mewn hwyliau da ac fe bennais i, Sue, Rachael a Laura lan yn bwyta cyri yn Tooting Broadway.

Dydd Iau, aethon ni mewn i'r dre i siopa, a bennes i lan yn mynd i tua dwsin o siopau sgidie da Sue a Rachael. Gret! O leia ges i gyfle i fynd iPlaylounge lle ges i chydig o degannau reit cwl gan gynnwys cwpwl o 2-faced Dunnies a Fire Water Bunny gan Gary Baseman. Cwl! Wedyn es i am gwpwl o beints yn Soho gyda fy hen ffrind IanDavies/ Hart. O'n i ddim di gweld Ian ers tua pedair blynedd, so odd da ni loads i ddal lan da, sydd wastad yn ffordd dda o wario chydig o oriau mewn pyb.

Odd raid i mi ddod adre prynhawn ddoe oherwydd odd da fi rihyrsal o ddarlleniad o "Gas Station Angel" gan Ed Thomas dwi'n cymryd rhan ynddo yn Chapter nos Fercher nesa. Benes i lan yn y pyb gyda Dean, John a Lucy o'r cast am last orders, lle am ddim rheswm, dechreuodd Dean son am y gyfres teledu cwlt o'r 80au cynnar, "One Summer" . Roedd y gyfres yn son am ddau scally yn rhedeg i ffwrdd o Lerpwl ac yn dod i Ogledd Cymru. Un o'r actorion oedd David Morrisey, ac un arall oedd Ian Hart...

0 Comments:

Post a Comment

<< Home