Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Wednesday, December 07, 2005

Penwythnos Showbiz Arall

Ar ol aros mewn fel meudwy bach anghymdeithasol ers y penwythnos, dyma fi'n mentro mas i weld Phillip Glass ar nos iau yn perfformio Powaqasti yng nghanolfan y mileniwm. Roedd e'n wych, wrth gwrs felly wedyn dyma fi, Lugg, Linda yn popio draw i far gore Caerdydd (City Bar, heb os) am swifft lemoned. Yn anffodus roedd parti dolig rhyw gwmni graffeg yna, so roedd rhaid i ni minglo ac yfed y complimentary gwin a muncho ar y canapes. Oh wel, o leiaf roedd consuriwr yna. A dwi wrth fy modd gyda consurwyr. Yn enwedig consurwyr sy'n gwneud triciau 'close up' gyda cardiau. Dwi methu resisto nhw. Yn anffodus, dwi methu resistio gwin complimentary chwaith. Wps! Bennes i lan da'r bar manager a'r barman yn yn fflat yn yfed rhagor o'r hen chateau comlimentary tan ffyc knows when. O wel, o leiaf roedd e'n hwyl.

A dyna be meddylies i'n y bore wrth rhuthro draw i Canolfan y Gate yn y Rhath ar gyfer rihyrsal y bore wedyn. Dwi'n chwarae ysbryd gydag un coes yn y gyfres comedi "High Hopes" i'r BBC. Yn y stori dwi'n dod yn ol i ymweld a fy ngwraig, 'mam', sy'n cael ei chwarae gan Margaret John. Dwi di nabod Margaret ers dros ugain mlynedd pan oeddwn ni yn 'District Nurse' gyda'n gilydd. Yna hefyd roedd Bob Blythe, Hugh Thomas a Di Botcher. Yn anffodus, nid oedd y cyfarwyddwr, Gareth Gwenlan yna. Roedd ei gar wedi torri lawr yn Henffordd. Aethon ni drwy'r olygfa hebddo fe, ges i sgwrs da'r merched gwisgoedd a cholur ac adre a fi. Wedyn fe giciodd yr hangover mewn. Gorffwys am weddill y dydd, felly, cyn mynd nol i ganolfan y Mileniwm ar gyfer rhagor o Phillip Glass. Gwych eto. Wedyn Djeio gyda criw Coo Coo yn Journeys. A meddwi...