Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Thursday, November 24, 2005

Fy Mywyd Glamorys (rhannau 17-24)

Awww! Pen tost heddi. Neithiwr, ro'n i yn Chapter yn gwneud darlleniad o "Gas Station Angel" gan Ed Thomas. Cafwyd cynilleidfa dda ac felly lawr a ni i'r bar i wario'r elw. Ar ol cwpwl, es i a Jams draw i Ba Orient yn y bae i gwrdd a Richard Harrington, sydd off i Morocco am fis ddydd Gwener i wneud ffilm. Nice work if you can get it! Gyda fe roedd Ed Thomas, Richard Lynch a Dewi Gregory ac ar ol cwpwl o Mojitos aethom ni a Harrington adre (ffwcd!) cyn mynd ymlaen i'r Cameo ac i dy Ed i yfed gwin.

Pan ddihines i am hanner awr wedi deg, cofies i bod criw o Wedi 7 yn dod rownd i wneud eitem ar Djio yn y prynhawn. Shit! Roedd y fflat yn ffiaidd o frwnt, ar ol i Lugg bod yn torri teils yn y gegin (ma fe di bod yn teilio ystafell y bath) . Roedd llwch coch ymhobman. Ar y llawr, ar y llestri, ar y cwcer, ar y byrddau. Bolycs! Jyst y peth ar gyfer hangover. Felly mas a fi i brynu bob math o offer glanhau wedyn sgrwbio, sgrwbio, sgrwbio. Wedyn Sgrwbio eto.

Ddaeth Ri rownd am baned a dal fi da dwstwr yn fy llaw. Mae hi di bod yn canu llais cefndir ar drac newydd sbon da Llwybr Llaethog gyda (wait for it) David R Edwards yn canu'r prif lais. Sori John a Kevs, mae hyn yn newyddion sy jest yn rhy cwl i gadw'n gyfrinachol. Y tro dwethaf nes i weld Dave oedd y diwrnod nath John Peel farw; roeddwn i'n digwydd bod yn Aberteifi, so es i rownd i weld e. Ar y pryd, doedd gan 'run ohonon ni fwriad i recordio byth eto, felly ma hwn yn newyddion gret. Apparently, nath e recordio'i llais lawr y ffon ac mae Ll Ll wedi adaeladu'r trac rownd e. Dwi methu aros i cael ei glywed.

Eniwe, llwyddes i lanhau'r fflat, ac fe ddaeth y criw o Wedi 7 rownd. Llwyddes i i siarad fel overexited geek am y greft o rhoi un record ar y stereo ac wedyn rhoi un arall. Mae'r eitem arno ar nos fawrth os oes diddordeb da chi...

1 Comments:

Blogger Nic said...

Newyddion gwych bod Dave wedi recordio rhywbeth newydd. Edrych ymlaen at glywed trac.

5:03 pm

 

Post a Comment

<< Home