Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Monday, January 30, 2006

Y Bloke Tew Na o Ty Gwydr


Wedi bod ar 'health kick' ers ddechre'r mis. Yn Efrog Newydd roeddem ni'n teimlo'i bod hi'n ddyletswydd arnom ni i brofi cymaint o fwydydd lleol ag oedd yn bosib; felly fe redon ni rownd Manhattan tra'n stwffio pastrami on rye, sleisiau o pizza, buffalo wings, clam chowder, pretzels, cwn poeth, home fries, bagels, burgers a pork chops yn ein pennau bach llwglyd, wedyn golchi'r cyfan lawr 'da galwyni o root beer, coke, budweiser a cosmapolitans. Yr unig reswn na chafon ni fwyd Tseiniaidd mewn blychau cardfwrdd oedd oherwydd bod y brechdannau 'Elvis' (peanut butter, bacwn a maple syrup mewn bara gwyn wedi tostio...Mmmm!) gafon ni i frecwast, yn gwrthod mynd i lawr mewn digon o amser...

Ac wedyn roedd hi'n ddolig. Erbyn i mi sefyll ar y sgels ar gyfer y ddefod arswydus blynyddol roeddwn i'n disgwyl y gwaethaf. Roeddwn i mhell dros ston yn drymach nag unhryw beth yn fy hunllefau mwyaf eliffantaidd. O na! O ganlyniad, mae Sue wedi'n rhoi ni ar ddeiat. Dim bara gwyn, dim caws, dim pethe melys, dim sglodion, creision na stwnsh; mwy o ffrwythau, llysiau gwyrdd, uwd, cnau a dwr. A dim cwrw! Ydw i wedi priodi Gillian Mckeith ar ddamwain? O wel. I fod yn onest, dwi'n teiomlo'n gret. Llai bloated a heb cael hangover ers Ionawr y 1af. A dwi di colli tua hanner ston yn barod. Hwre! Os yw hwn yn cario mlaen, erbyn nadolig nesaf, mi fyddai nol i fy usual svelte 25 year old physique. Watch this space...

0 Comments:

Post a Comment

<< Home