Wps!
Dyna lle ron i'n edrych mlaen yn eiddgar at gigio gyda Ty Gwydrn yng Nghlwb Ifor ar Ragfyr 13eg, pan ddaeth Lugg ar y ffon i ddweud bod camgymeriad wedi bod wrth argraffu fflaiars CIB. Roedd y gig actiwali ar y 15fed. A dwi di bwcio hedfan i Efrog Newydd ar y 14eg. O na! O ni di roi band newydd at ei gilydd a phopeth, gyda John Pulman, oedd yn fy mand cynta rioed, sef Clustiau Cwn, ar y bas. O wel, bydd rhaid i ni whare yn y flwyddyn newydd nawr. Gall roc a rol aros...
3 Comments:
'Wps' yn wir! Dwi wedi profi y teimlad amhleserus o anfon 500+ o bosteri allan ond i sylwedodli wedyn mod i wedi rhoi'r mis anghywir lawr. Ych. Dwi erioed wedi clywed Ty Gwydr yn fwy or blaen. Doeddwn i na'm ffrindiau yn ymwybodol bod y fath beth a sîn Cymraeg yn bodoli ar pan oeddem yn blantos ysgol ar ddechrau'r 90'au.
4:52 pm
Gai fod yn hollol hunanol a dweud fod hyn yn siwtio fi'n llawer gwell! Gobeithio allai ddod lawr i hon yn y flwyddyn newydd. Dwi di bod yn hiwj ffan o Ty Gwydr ers blynyddoedd (cael ail-wrandawiad da ar LLLL a TG vs MC DRE ar y foment).
Gyda llaw fe brynais i sengl Awr Fawr Clustiau Cwn yn siop Celfi Diddan Dolgellau am 25c wedi i foi o'r enw Huw Dylan ddweud ei fod yn brin ac yn werth £50! Wyt ti wedi clywed i'r record gael ei werthu am bris fel'na?
9:43 am
Gweles i sengl Clustiau Cwn ar ebay am tua canpunt unwaith ar ol i rywun pwyntio mas ei fod yn collector's item. Dwi di cael ambell ebost gan casglwyr pync o dramor yn gofyn os oedd gen i gopi sbar, ond hei, mae 'Byw yn y Radio' ar gael ar cdd Sain 'Degawdau Roc' erbyn hyn, so there!
5:06 pm
Post a Comment
<< Home