Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Saturday, November 26, 2005

Rocio'r Kasbah

Hwre, mae Txoko nol! Da ni di bod wrthi am bron i bum mlynedd, ond yn ddiweddar, mae ein club swper wedi bod yn cwrdd llai a llai. Sy'n bit of a bummer really, ond dyna fe, da ni gyd yn ddynion proffesiynol prysur, prysur ac mae trefni gwledd i dwsin unwaith y mis yn gallu bod yn waith caled.

Eniwe, dyma Lugg yn ffonio ddydd Llun yn dweud bod e'n mynd i wedd droi ei dy lawr yn Grangetown mewn i Souk Morrocaidd ar nos Wener a bod yn rhaid i mi fod na. Nice one. Edrychais ymlaen yn eiddgar.

Cyrhaeddais am wyth gyda'r bag o lo loedd Lugg di gofyn amdanno (peidiwch a gofyn) a botel o win coch. Yna'n barod roedd Aelwyn yn dewis albym gan 3 Mustaphas 3 i whare a Siencs a Lugg wrthi'n brysur yn y gegin. Roedd clustogau wedi'u gwasgaru hyd y stafell fyw a hybli-bybli anferth yn y canol. Marciau llawn i Lugg felly am ei synwyr theatraidd.

Cyrhaeddodd Mike a Richard Powell, Tim a'i met Mike, Dave Evans a Daf yn y man ac fe ddaethpwyd a bob math o snaciau bach Morocaidd allan. Yn eu plith roedd cnau a hadau wedi'u rhostio, bricyll wedi'u sychu ac orenau mewn sinamon. Perffaith i'n cael ni'n barod am y tagine o gig ddafad a cous cous gyda mintys. Wedyn, fe ddaeth dets wedi'u stwffio da almonds, mintys a mefys allan (hyfryd) ac un o hufenau ia enwog Siencs. Dwi ddim yn cofio cweit beth oedd ynddo fe ond, waw, terfyn perffaith i bryd (ac achlysur) ardderchog.

Ar ol bwyta nes i guro Mike P a Lugg ar y bwrdd backgammon, cyn mynd adre'n fodlon iawn. Roll on y Txoko nesaf.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home