Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Friday, October 28, 2005

Wythnos Trist Ofnadwy


Bu farw dad nos lun. Roeddwn i, fy ngwraig Sue, mam a'i ffrind agos, Lynsey, o gwmpas ei wely yn Ysbyty'r Glowyr, Caerffili, ac roedd fy mrawd, Huw, newydd adael. Doedd e ddim yn unig, felly, ac mae hwna'n rhyw gysur. Roedd e wedi bod yn sal ers ryw chwe mis gyda canser yn ei bledren, ond fe symudodd y salwch i'w ysgyfaint yn ddiweddarach.

Er i dad ennyn ddigon o egni i ddod i'n priodas mis dwethaf (lle gafodd ddiwrnod bendigedig, gyda llaw), roedd y diriwiad yn yr wythnosau dwethaf yn siomedig o wael. Dydd gwener dwethaf, roedd e wedi colli rheolaeth o'i goesau ac fe aethpwyd ag ef i'r ysbyty. Es i draw i weld e dydd sadwrn ac er bod e'n ffeindio fe'n anodd i symud, roedd yn eistedd lan ac yn sgwrsio gyda pawb oedd yn dod i ymweld ag ef. Fe sgwrsion ni am bethe tad a mabaidd fel ein balchder a'n cariad tuag at ein gilydd a hefyd ei gariad tuag at Sue "y ferch na gafodd ef a mam tan nawr." Roedd e'n brynhawn/noswaith sobor o drist ond yn hyfryd ar yr un pryd. Roeddem ni gyd wedi sylwedddoli bod y diwedd yn agos.

Ddydd Sul, fe ddaeth Sue gyda fi i Gaerffili. Doedd hi methu dod ddoe oherwydd ei gwaith yn edrych ar ol gwisgoedd drama Meic Povey, "The Life Of Ryan And Ronnie" yng Nghanolfan y Mileniwm. Fe baraton ni ginio i mam a Huw cyn mynd i weld dad. Roedd e dan ddylanwad llwyth o gyffuriau ac yn gweld pethau nad oedd yna. Roedd hyn yn gallu bod yn ddoniol iawn ac yn trasic o un munud i'r llall. Y noswaith hono, fe arhoson gyda mam tan yn hwyr yn gwylio "Crouching Tiger..." ar y teledu.

Ddydd Llun, roeddwn i'n gweithio yn Theatr y Sherman lle mae fy ngriw i o'r theatr ieuenctid yn perfformio pwt o'r sioe "The Boy Who Told Tales" gan Mike Kenny ar nos iau, gwener a sadwrn. Mae'n hanner tymor ac roedd gennym ni awr i ymarfer ein darn ni ar lwyfan y stiwdio, neu Feniw 2 (Yr Arena fel dw i a'r hen gits dal yn ei alw fe!). Dim ond jest dros hanner y cast nath droi fyny. Roedd hyn yn gwneud rehyrsio yn amhosib braidd, felly, er nad o'n i yn y mwd o gwbl fe ail lwyfanon ni beth oeddwn ni wedi paratoi mewn ryw gornel dawel o'r theatr. Doedd dim pwynt gwylltio gyda'r rhai wnaeth droi fyny, ac mi rwyt ti'n sylweddoli ar adegau fel hyn bod pethau mwy pwysig yn y byd ma na'r theatr...

Es i draw i Gaerffili gyda Sue tua amser cinio ac roedd Denzil John, y parchedig a ffrind i'r teulu yno'n cael paned gyda mam pan gyrhaeddon ni. Fe ddaeth Huw draw i'r ty ar ol iddo fod i'r ysbyty ac fe rybuddiodd e bod dad wedi gwaethygu, ac yn ffeindio fe'n anodd i ffurfio geiriau. Ddaeth e gyda ni nol i'r ysbyty ac roedd y diriwiad yn ngwedd dad yn amlwg wrth i ni fynd i mewn i'r ward. Dwi erioed wedi gweld y dyn balch, bywiog yma'n edrych mor fregus. Arhosom ni am gwpwl o oriau yn sgwrsio a chwerthyn gyda criw o ffrindiau ddaeth ag aeth. Mae'n ryfeddol fel mae pobl yn ffeindio nerth i wherthin yn llon ar adegau mor anobeithiol a hyn. Ar ol i Huw adael, tua chwech o'r gloch, fe ddwedodd mam wrth dad ei fod hi am fynd cyn bo hir er mwyn rhoi cyfle iddo orffwys. Sibrydiodd dad yn wanaiddei fod e am i ni aros gyda fe am dipyn. Ddaeth Lynsey draw tua hanner awr wedi cwech ac erbyn chwarter i saith roedd dad wedi ymadael.

Ddaeth Huw yn ol i'r ysbyty ar ol i mi ei alw gyda'r newyddion drwg ac roedd dagrau o dristwch ac o ryddhad yn yr ystafell wrth i ni baratoi i ddweud ffarwel i dad. Fe ddaliais i a Sue ei law a siarad ychydig gyda fe cyn i ni fynd a'i stwff o'r cwpwrdd fechan wrth ymyl y gwely adre at mam. Gwastraffodd fi a Huw ddim amser yn gorffen gweddillion ei wisgi gore, joch neu dair o'r Penderyn a'r Oban. Roedd e'n hoff iawn o'i single malts a'i rare blends, blas rydym ni frodyr wedi etifeddu. Fe godom ni ein gwydrau ni sawl gwaith y noson hono mewn llwncdestyn i ddyn arbennig iawn y byddem ni gyd yn gweld ei eisiau yn y blynyddoedd sydd i ddod. David John Potter, fy nhad, 1930 - 2005.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home