Fy Mywyd a Stwff. Croeso.

Friday, October 28, 2005

Wythnos Trist Ofnadwy


Bu farw dad nos lun. Roeddwn i, fy ngwraig Sue, mam a'i ffrind agos, Lynsey, o gwmpas ei wely yn Ysbyty'r Glowyr, Caerffili, ac roedd fy mrawd, Huw, newydd adael. Doedd e ddim yn unig, felly, ac mae hwna'n rhyw gysur. Roedd e wedi bod yn sal ers ryw chwe mis gyda canser yn ei bledren, ond fe symudodd y salwch i'w ysgyfaint yn ddiweddarach.

Er i dad ennyn ddigon o egni i ddod i'n priodas mis dwethaf (lle gafodd ddiwrnod bendigedig, gyda llaw), roedd y diriwiad yn yr wythnosau dwethaf yn siomedig o wael. Dydd gwener dwethaf, roedd e wedi colli rheolaeth o'i goesau ac fe aethpwyd ag ef i'r ysbyty. Es i draw i weld e dydd sadwrn ac er bod e'n ffeindio fe'n anodd i symud, roedd yn eistedd lan ac yn sgwrsio gyda pawb oedd yn dod i ymweld ag ef. Fe sgwrsion ni am bethe tad a mabaidd fel ein balchder a'n cariad tuag at ein gilydd a hefyd ei gariad tuag at Sue "y ferch na gafodd ef a mam tan nawr." Roedd e'n brynhawn/noswaith sobor o drist ond yn hyfryd ar yr un pryd. Roeddem ni gyd wedi sylwedddoli bod y diwedd yn agos.

Ddydd Sul, fe ddaeth Sue gyda fi i Gaerffili. Doedd hi methu dod ddoe oherwydd ei gwaith yn edrych ar ol gwisgoedd drama Meic Povey, "The Life Of Ryan And Ronnie" yng Nghanolfan y Mileniwm. Fe baraton ni ginio i mam a Huw cyn mynd i weld dad. Roedd e dan ddylanwad llwyth o gyffuriau ac yn gweld pethau nad oedd yna. Roedd hyn yn gallu bod yn ddoniol iawn ac yn trasic o un munud i'r llall. Y noswaith hono, fe arhoson gyda mam tan yn hwyr yn gwylio "Crouching Tiger..." ar y teledu.

Ddydd Llun, roeddwn i'n gweithio yn Theatr y Sherman lle mae fy ngriw i o'r theatr ieuenctid yn perfformio pwt o'r sioe "The Boy Who Told Tales" gan Mike Kenny ar nos iau, gwener a sadwrn. Mae'n hanner tymor ac roedd gennym ni awr i ymarfer ein darn ni ar lwyfan y stiwdio, neu Feniw 2 (Yr Arena fel dw i a'r hen gits dal yn ei alw fe!). Dim ond jest dros hanner y cast nath droi fyny. Roedd hyn yn gwneud rehyrsio yn amhosib braidd, felly, er nad o'n i yn y mwd o gwbl fe ail lwyfanon ni beth oeddwn ni wedi paratoi mewn ryw gornel dawel o'r theatr. Doedd dim pwynt gwylltio gyda'r rhai wnaeth droi fyny, ac mi rwyt ti'n sylweddoli ar adegau fel hyn bod pethau mwy pwysig yn y byd ma na'r theatr...

Es i draw i Gaerffili gyda Sue tua amser cinio ac roedd Denzil John, y parchedig a ffrind i'r teulu yno'n cael paned gyda mam pan gyrhaeddon ni. Fe ddaeth Huw draw i'r ty ar ol iddo fod i'r ysbyty ac fe rybuddiodd e bod dad wedi gwaethygu, ac yn ffeindio fe'n anodd i ffurfio geiriau. Ddaeth e gyda ni nol i'r ysbyty ac roedd y diriwiad yn ngwedd dad yn amlwg wrth i ni fynd i mewn i'r ward. Dwi erioed wedi gweld y dyn balch, bywiog yma'n edrych mor fregus. Arhosom ni am gwpwl o oriau yn sgwrsio a chwerthyn gyda criw o ffrindiau ddaeth ag aeth. Mae'n ryfeddol fel mae pobl yn ffeindio nerth i wherthin yn llon ar adegau mor anobeithiol a hyn. Ar ol i Huw adael, tua chwech o'r gloch, fe ddwedodd mam wrth dad ei fod hi am fynd cyn bo hir er mwyn rhoi cyfle iddo orffwys. Sibrydiodd dad yn wanaiddei fod e am i ni aros gyda fe am dipyn. Ddaeth Lynsey draw tua hanner awr wedi cwech ac erbyn chwarter i saith roedd dad wedi ymadael.

Ddaeth Huw yn ol i'r ysbyty ar ol i mi ei alw gyda'r newyddion drwg ac roedd dagrau o dristwch ac o ryddhad yn yr ystafell wrth i ni baratoi i ddweud ffarwel i dad. Fe ddaliais i a Sue ei law a siarad ychydig gyda fe cyn i ni fynd a'i stwff o'r cwpwrdd fechan wrth ymyl y gwely adre at mam. Gwastraffodd fi a Huw ddim amser yn gorffen gweddillion ei wisgi gore, joch neu dair o'r Penderyn a'r Oban. Roedd e'n hoff iawn o'i single malts a'i rare blends, blas rydym ni frodyr wedi etifeddu. Fe godom ni ein gwydrau ni sawl gwaith y noson hono mewn llwncdestyn i ddyn arbennig iawn y byddem ni gyd yn gweld ei eisiau yn y blynyddoedd sydd i ddod. David John Potter, fy nhad, 1930 - 2005.

Sunday, October 16, 2005

Mis yn Kosova




Dyma hanes fy nhaith gyntaf i Kosova llynedd i gyfarwyddo sioe gydag actorion lleol:

“So Gareth, beth wyt ti’n gwybood am Kosova?” gofynodd y gyrrwr wrth I ni ruthro o faes awyr Prishtina tua’r ddinas mewn Opal Kadett glas. Roedd gen I bag Adidas gwyrdd gyda wyth o cd’s, dau nofel, un llyfr am gyfarwyddo theatr a bag molchu ynddo fe ar y set gefn. Roedd gweddill fy eiddo wedi mynd ar goll rhywle rhwng Llundain a Budapest. Tu allan i’r car ro’n i’n gallu gweld adaeladau concrit llwyd a mosgiau newydd sbon yn gwibio heibio, hysbysebion sigarets, cerbydau milwrol a tractors, caeau pel droed, siopau coffi a gorsafoedd petrol. Fe’m croesawyd i’r wlad gan y milwr o Gamaroon da’r bathodyn UN a wiriodd fy mhasbort. Wedyn gan y ddynes gwallt tywyll, tal a roddodd ffurflen i mi lenwi ynglun a’r bag colledig. Eto gan y tyrrau o fechgyn ifanc y tu allan i’r maes awyr oedd yn ceisio gwerthu Marlboros a Gitanes rhad.

Roeddwn I yn Kosova I weithio. Dyw e ddim y fath o le ti’n mynd ar dy wyliau. Does dim byd llawer yn llyfrau Lonely Planet neu Rough Guide am y lle. Traumatic, disconcerting, depressing, troubled a squalid yw rhai o’r ansoddeiriau a ddefnyddir gan un o’r llyfrau oddiar fy silff yng Nghaerdydd i ddisgrifio Prishtina. Yr unig bethau o’n i di gweld am Kosova ar y teledu oedd yr adroddiadau erchyll ar y newyddion ynglyn a’r rhyfel ychydig flynyddoedd yn ol. Ro’n i wedi bod i Croatia, sydd hefyd yn ran o’r hen Iwgoslafia, lle ges i wyliau moethus yn torheilio, nofio a cherdded o gwmpas dinasoedd hynafol a phrydferth. Roedd hwn yn mynd i fod yn daith dra gwahanol.

Yn gynharach yn y flwyddyn, gofynodd Jeremy Turner o’r cwmni theatr Arad Goch yn Aberystwyth a fyddai diddordeb gen I mewn cyfarwyddo drama gan gwmni yn Kosova. Roedd e wedi cwrdd a rywyn mewn cynhadledd oedd eisiau cyfarwyddwr tramor I ddod I weithio gydag actorion lleol ym Mhrishtina. Roedd Jer yn nabod fi digon I wbod fyddwn I a diddordeb, ac erbyn wythnos gyntaf mis Medi, roeddwn I ar yr awyren ac ar fy ffordd. Wrth gwrs roedd fy ffrindiau a nheulu’n meddwl mod I’n wallgof. “Mae’r lle nghanol warzone!”, “Syt wyt ti’n mynd i gyfarwyddo mewn iaith dwyt ti byth wedi clywed, heb son am medri deall?” “Syt ma’ hyn yn mynd I hybu dy yrfa?” Wrth gwrs, mae pawb sy’n fy adnabod yn iawn yn gwybod bod gen i ddim llawer o ots am fanylion bach bourgiois fel diogelwch, deall beth mae pobl yn dweud a dilyn gyrfa. Mae bywyd jest rhy fyr i droi lawr cynigion am anturieuthau fel hyn. A doedd e ddim fel petai unhryw beth arall gen I I wneud ym mis Medi…

Fellu dyna lle’r on i, mewn Opel Kadett glas yn carlamu tuag at y ddinas diolwg oedd yn mynd i fod yn gartref i mi am y mis nesaf. Dim eiddo, dim hanes a dim syniad am beth o’n i fod i ddisgwyl. Yr cwbl o’n i’n gwybod am Kosova oedd ei fod yn ardal Fwslem – Abanian o Serbia. Roedd hwn cystal a meddwlbod Cymru yn ardal Eglwys Annibynnol – aidd o Loegr. Anghywir! Yn lwcus roedd gan y gyrrwr hiwmor. “Paid byth a dweud hwna wrth neb fan hyn!” chwerthynodd yn graff.

Y gyrrwr oedd Jeton Neziraj, dramodydd a phenaith Canolfan Datblygu Theatr Plant, Prishtina. Ei swydd ef yw datblygu theatr i bobl ifanc yma, a fe wnaeth benderfynu fy ngwahodd yma. Dyn yn ei ugeiniau hwyr sydd wedi gweld pethau erchyll yn ei wlad dros y blynyddoedd dwethaf. Dyn sydd ar genhadaeth i gyfoethogi bywydau yr ifanc yn Kosova.

Ar ol cyrraedd fy llety, fflat fechan gyda cegin a balcony ar un o strydoedd prysuraf Prishtina, roedd yn amser ymlacio a dechrau trafod beth oeddem ni’n bwriadu cyflawni. Dywedodd Jeton ei fod e am i mi gyfarwyddo drama fer roedd e wedi ysgrifennu gyda dau dramodydd arall ar gyfer pobl yn eu harddegau ar y testun o rywioldeb a thabw. Enw’r ddrama ar hyn o bryd oedd Mae Gan Fy Nghont I Lygaid… Oce! Doedd y cyfieithiad Saesneg heb gyrraedd eto, ond y gobaith oedd I gynnal clyweliadau gydag actorion yn ystod y dyddiau nesaf.

Un o’r pethau mwyaf cyffrous ynglun a dod i Kosova fel cyfarwyddwr theatr oedd y gwir cyfle roedd hwn yn rhoi i mi i ail ddyfeisio fy hun. Dwi di bod o gwmpas ers ddechrau’r wythdegau yn y byd adloniant Cymraeg mewn rhyw rol neu’i gilydd; pync rocar, soap star, refar, actor stret, dj a chyflwynydd teledu i enwi ond ychydig. Doedd pobl Kosova’n gwybod dim am Gareth Potter, ac roedd hyn yn ryddhad. Roedd gen I gyfle unigryw I ddechrau peintio ar gynfas glan. Roeddwn I’n cael fy nghyflwyno i bawb fel cyfarwyddwr profiadol o Gymru y oedd yn mynd I greu cynhyrchoad pwysig i bobl ifanc Kosova! Teimlais rhyddid, egni a’r hyder I fod yn pwy bynag o’n i moyn bod am y mis nesaf.

Dyw Prishtina ddim yn ddinas hardd o bell ffordd. Adaeladau ol Sofietaidd hyll sydd yma ac mae’r hinsawdd yn llychlyd. Oherwydd yr holl gwffio diweddar, mae na adfeilion ac adaeladau newydd sbon ar eu hanner ymhobman. Mae’n anodd iawn gweithio allan pa rai sy beth, weithiau. Mae hyn, wedi cyplysu da’r ffaith bod pawb yn gyrru fel meniacs ma yn creu awyrgylch o anhrefn a dryswch llwyr. Mae cardotion yn begian yn y stryd, ond dim gymaint ac o’n I’n disgwyl mewn lle mor dlawd. Mae dros 70% o’r boblogaith heb swydd iawn ac fellu mae gwrthwys sigarets, cardiau ffon a gwm cnoi ymhobman. Er hyn I gyd, cefais I ddim cynig cyffuriau na phutainiaid unwaith. Maent yn bobol balch a golygus ac mae’r ifanc yn awyddus I wisgo’n ffasiynol yn y labeli diweddaraf.

Mae’r bariau’n gret. Awyrgylch cyfeillgar, siaradus gyda cwrw lleol (Peja) neu coffi yn costio llai na un Euro. Mae’r gerddoriaeth yn y bariau yn debyg iawn I’r gerddoriaeth yma, sgrins yn dangos MTV neu VH1 neu CD’s roc, r&b etc. Neu bandiau cyfars neu karaoke mewn ambell man. Fy hoff bariau oedd yr Hard Rock answyddogol oedd yn whare hefi metal classics a’r Zanzi Bar, cartref y Zanzi Band. Mae gwasanaeth bwrdd yn y bariau I gyd felly does dim rhaid mynd I’r bar o gwbl ac mae’r gweinyddwyr wastad yn cofio faint da chi di gwario…

Mae’r bwyd yn iawn. Llysiau a ffrwythau hynod flasus a ffres, qebapa (cebabs) a burek (tebyg I sausage roll ond gyda cig oen neu caws a spinach) yn ogystal a’r bwyd cyflym arferol (ond dim McDonalds neu KFC ‘ma eto). Mae rhai o’r bwytai y tu allan I’r ddinas yn hyfryd a hollol rhesymol. Dyma’r llefydd gorau I ymlacio, profi’r gwin a’r bwydydd lleol tra’n gwrando ar gerddoriaeth mwy traddodiadol.

Erbyn fy nhrydydd diwrnod, roeddwn wedi darllen testyn y ddrama drwyddo ‘chydig o weithiau ac o’n I’n barod I gynnal cyfweliadau yn theatr y Dodona. Y Dodona oedd y lle roeddem ni’n mynd I weithio, theatr fach ag awditoriwm yn dal tua 170. Sefydlwyd y theatr ym1992 ar gyfer llwyfannu sioeau I blant a phobl ifanc, ond ar ol I’r Serbiaid ddod a meddianu Kosova fe gaewyd ysgolion a phrifysgolion Prishtina. Gostegwyd y papurau newydd, gorsafoedd teledu a radio iaith Albanian. Rhywsyt, er I bron pob sefydliad diwilliannol gael ei taweli, fe arhosodd y Dodona ar agor. Fe ddaeth yn le arbennig iawn gyda’r Kosovars yn fodlon risgio’u bywydau yn aml I fynychi perfformiadau yn y theatr. Fe ddaeth yn le I ddathlu eu hurddas fel pobl ac I sefyll yn erbyn yr holl drais ac anghyfiawnder yn eu gwlad. Wedi’I leoli ar un o strydoedd cefn anhysbell y ddinas dyw’r Dodona ddim yn llawer I edrych arno, ond mae;n lle sy’n dal atgofion emosiynnol a grymus I bobl Prishtina.

A finne’n gwisgo fy het cyfarwyddwr pwysig o Brydain, dyma fi’n cwrdd a ryw ugain o actorion brwdfrydig a thalentog ar gyfer y cyfweliadau. Gofynais iddynt ddangos darnau yn Albanian, I gerdded ar y llwyfan, I wneud I mi wherthin ac I fyrfyfyrio mewn parau. Ar ddiwedd y sesiwn, roedd rhaid gwneud penderfyniadau, felly bant a fi, Jeton ac actor enwog o ffilmiau’r hen Iwgoslafia, Faruk Begolli, I un o’r bwytai hyfrytaf dwi di bod iddo ‘rioed er mwyn trafod. Braf iawn yw bod yn gyfarwyddwr pwysig o Brydain!!

Dewiswyd y cast ac fe eithym ati I ymarfer. Doedd dim problem ieithyddol. Dwi methu siarad Albanian, dy’n nhw methu siarad Cymraeg. Wrth gwrs, fe ddysgon ni’n gilydd I weud bore da a ffyc off cont yn ein ieithoedd, ond roedd gan bob un ohonom rywfaint o Saesneg, ac mae gwenu, pwyntio a gweiddi hefyd yn helpu. Roedd na lot fawr o barch yn yr ystafell ymarfer. Wrth I’r wythnosau fynd heibio fe ddaeth y sioe at ei gilydd, a minau’n dechrau adnabod swn geiriau a brawddegau Albanian mwy a mwy. Fe ddaethom yn griw agos, yn cymdeithasu a rhannu profiadau a jocs dros maciattos a photeli o Pejes ym mariau a fflatiau Prishtina.


Wrth gwrs, mae’r rhyfel cartref wrth I’r hen Iwgoslafia chwalu wedi cael effaith mawr ar y boblogaith ifanc. Mae pobl yn casau be wnaeth y Serbiaid yna, ac mae’r creithiau yn dal I’w gweld yn agored. Mae pawb yn nabod pobl sy wedi marw dan tactegau ethnic cleansing y Serbs, a’r rhan fwyaf o bobl wedi colli ffrindiau agos neu deulu. Cafodd brawd un o’m cyd weithwyr ei dal mewn gwersyll symudol yn Serbia am dros blwyddyn ac mae dros 5,000 o bobl yn dal ar goll. Mae beddau anhysbus yn cael eu darganfod o hyd. Yn Kosova, y tu allan I bob pentref, gwelais mynwentydd newydd sbon eu golwg. Mewn un nes I ymweld a, cyfrais saith aelod o’r un teulu fu farw o fewn tridiau I’w gilydd. Roedd hyn, wrth I ni gofio chwedeg mlynedd ers I Aushwitz gael ei ryddhau, yn llai na chwe mlynedd yn ol…

Wrth I noson gyntaf y sioe agosau, fe ddes I’n rywfath o minor celebrity, gyda ymddangosiadau ar y teledu a chyfweliadau yn y wasg yn dod yn fwy ac yn fwy niferus.
Roedd y gweunydd yn y bwytu qebapa cyfagos I’r theatr yn gyffrous iawn mod I a’m criw wedi dod yn regulars yna, ac roedd pobl yn dod lan I mi yn y stryd a’r bariau’n ddyddiol ar ol iddynt gweld fy ngwyneb ar y sgrin neu yn y papurau. Dyma rhai o’r bobl mwyaf cyfeillgar I mi ‘rioed cwrdd a, pawb ishe siglo dwylo a dweud helo gan ddangos diddordeb anferth yn yr hyn ‘roeddwn yn ei gwneud a pham oeddwn I am fod yma.

Heb amheuaith, mae’r Kosovars yn teimlo cariad mawr tuag at bobl Prydain a’r US. Wedi’r cyfan, fe ddaeth ein lluoedd arfog I’w rhyddhau rhag gelyn erchyll oedd wedi cymryd eu gwlad. Dychmygwch syt fyddwn ni’n teimlo petai’r Saeson newydd ein meddianu ni gan gwahardd ein teledu, radio, gwasg, ysgolion, capeli ayb; a wedyn dyma’r Americaniaid yn dod I’n helpu ni? Mae Clinton yn arwr mawr I’r bobl gyda un o brif strydoedd y ddinas wedi’I enwi ar ei ol (Bill Clinton Boulevard) ac mae Tony Blair a Madeline Albright yn enwau eitha cyfarwydd ar blant bach!! Roedd pawb y siaradais I a nhw yn filch iawn bod Milosovits a’I griw o ysbeilwyr a llofryddion yn gwynebu ynadon y gorllewin yn yr Haig.

Yn y pendraw, newidwyd teitl y ddrama I Mesimi I Ndaluar, sef Y Wers Gwaharddiedig, ac roedd y noson gyntaf yn llwyddiant anferth, gyda ty llawn a rifiws gwych dros y cyfryngau I gyd. Roeddwn I wedi’I gwneud hi, wedi cyfarwyddo sioe llwyddianus mewn iaith hollol estron. Ond roedd llawer iawn mwy na hyn wedi’I gyflawni. Roedd e fel petai mod I wedi darganfod teulu hollol newydd draw ar gyrion Ewrop. Cyrhaeddais yn unig ac yn waglaw, ac erbyn I mi ffarwelio, roeddwn wedi fy nghyfoethogi mewn gymaint o ffyrdd anisgwyl. Roedd y croeso a derbyniais yn enfawr, ac er mod I’n gobeithio mod I wedi gallu dysgu rhywbeth bach I’r cast a’r cynilleidfaoedd, fe ddysgais I mwy nag o’n I’n meddwl bod na modd gan y bobl balch a chynnes yma.

Mae’r cwmni’n bwriadu dod draw I Aberystwyth ym mis Mawrt I berfformio Mesimi I Ndaluar yn ystod gwyl theatr Agor Drysau, a dwi jest methu aros I weld fy ffrindiau (a’u sioe wrth gwrs!). Ar hyn o bryd dwi wrhi’n ceisio sortio mas prosiect newydd a darganfod arian I fynd nol mas na, a dwi’n gobeithio y bydd hwn yn gysylltiad fydd yn para ar hyd fy oes.

Ymddangosodd yr erthygl yma yn Tu Chwith cyfrol 22, "Rhyddid"