Ein diwrnod cenedlaethol
Fe ddechraeodd Mawrth y cyntaf gyda fi'n rhruthro'n wyllt lawr i stiwdio Soundworks, sydd uwchben y City Bar yn y bae. Roeddwn i wedi fy mwcio i leisio trels ar gyfer cyfres newydd o raglenni dogfen ar gyfer S4C o'r enw 'Wynebau Newydd'. Nice work, os ti'n gallu'i gael e. Mae'n edrych yn gyfres rili diddorol; pobol o Gymru yn gwneud pethe tra ddiddorol mewn cyd destun rhyngwladol. Roedd gofyn i mi laesio'r trels (oedd yn odli), yn fy nyll 'unigryw' o rapio a la Ty Gwydr. Gobeithio nad y'n nhw'n swno'n rhy cheesy a gormod fel gwerthu allan. Fe nes i fy ngore i'w cael nhw'n iawn, so cawn weld, eh?
Es i lan i'r dre amser cinio ac roedd awyrgylch reit 'festive' yno gyda cor meibion yn canu'n un o'r arceds a cenhinau pedr ymhobman. Yn y bandstand ger y Virgin Megastore roedd grwp gwerin Gymreig yn whare ac roedd hyd yn oed 'modernist' gadarn fel minnau yn teimlo'n hapus ac yn falch o fod yn Gymro. Hyfryd.
Tra roeddwn i'n edrych ar siaced rhy ddrud yn Howells, fe ffoniodd fy hen ffrind Katell Keineg, y gantores. Roedd hi yn y dre tan y bore ac yn rhydd heno, felly oeddwn i'n ffansio diod wedyn. Wel wrth gwrs. Doeddwn i ddim wedi gweld Katell ers tua deng mlynedd neu mwy, er bod ei mham wedi mynychu angladd fy nhad llynedd. Roeddem ni'n arfer bod yn ffrindiau reit agos. Y peth oedd, roeddwn i wedi gaddo bod ar banel 'Can i Gymru', ond falle gallwn ni gwrdd wedyn. O beth o'n i'n cofio, dyliwn i fod nol yng Nghaerdydd erbyn 9:30, felly fe benderfynnon ni gwrdd yn Buffalo Bar.
A bant a fi i bigo lan Guto er mwyn gyrru i Aberafan ar gyfer CIG, lle ffeindiais i allan bod y cystadlu'n cario mlaen tan 10:00, a bod dim siawns o fod nol yng Nghaerdydd tan 10:45. Pwp! O wel. Roedd yn braf iawn gweld lot o hen wynebau oedd ar y panel gyda ni; Gari Melville, Dan Bach, Huw Poo i enwi ond tri! Rhaid cyfadde mod i braidd yn starstruck i weld bod Arfon Wyn a Tecwyn Ifan ar y panel hefyd. Dynion clen iawn.
Ar ol hongio rownd mewn stafell mawr hyll am awr a hanner gyda dim byd ond tegell a tin o instant coffee i'n diddannu, dyma cwpwl o ganiau o lager a plat o bastis cerneweg yn cyrraedd. Jiw,mae bod yn byndit gyfryngol yng Nghymru'n gallu bod yn brofiad mor foethus weithiau.
Wedyn, am 8:20, ddwy awr neu mwy ar ol i ni gyrraedd, dyma rhyw p.a. yn cyrraedd, ein tywys ni mewn i'r stiwdio foethus dros dro a'n briffio ar syt i ddefnyddio yr offer pleidleisio. Unwaith roedd y pleidleisio drosodd, dyma fi'n heglu hi i'r car gyda Guto a nol a ni i'r brifddinas.
Cysylltodd Lugg i ddweud bod ef a Katell wedi mynd lawr at y City Bar, ond erbyn i mi gyrraedd, roedd hi'n last orders, felly nol i'r dre am beint neu ddau yn Callahans. Dwi wrth fy modd gweld hen ffrindiau. A doedd e ddim yn teimlo fel petawn i ddim wedi gweld Katell am ddegawd neu mwy. Roedd y sgwrs mor llyfn a'r Guinness yn fy ngwydr, wrth i ni drafod prysau tai yn Nulun, casgliad celf Iggy Pop ac albwm newydd Euros Childs.
Dydd Gwyl Dewi Hapus!